Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymwybodol o bwysigrwydd tacsis wrth geisio ateb gofynion cludiant lleol ac yn awyddus i ddatblygu eu potensial fel rhan o'n gweledigaeth o rwydwaith cludiant cwbl integredig. Rydym hefyd yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd hanfodol tacsis ar gyfer nifer o bobl anabl, yn enwedig y rhai hynny nad ydynt yn gallu cael mynediad i wasanaethau cludiant cyhoeddus confensiynol.
Cefnogodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ymgynghoriad yr Adran Drafnidiaeth ar arbrofi ffyrdd o wella'r mynediad i dacsis gan bobl anabl. Un o'i ganlyniadau oedd cymryd y cyfle a gyflwynwyd gan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010, yn cyfuno mewn un Ddeddf nifer o wahanol rannau o ddeddfwriaeth ynglŷn â gwahaniaethu - gan gynnwys gwahaniaethu ar sail anabledd. Mae'r Ddeddf newydd yn cynnwys nifer o'r darpariaethau tacsi a cherbydau hurio preifat (CHP) a oedd o fewn y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, ond mae hefyd yn cynnwys newidiadau pwysig.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn awdurdodi Llywodraeth y DU i wneud Rheoliadau 'hygyrchedd tacsis', fel bod pobl anabl yn gallu mynd i mewn ac allan o dacsis yn ddiogel tra mewn cadeiriau olwyn; a theithio'n ddiogel ac mewn modd sy'n rhesymol gyfforddus mewn tacsis, a hefyd tra mewn cadeiriau olwyn. Yn draddodiadol, bu'n anodd datblygu addasiadau technegol ar gyfer tacsis a CHP, ond yn dilyn ymgynghoriad yn 2009, mae gan yr AD ddata i ystyried safonau a dyddiadau cau.
Bydd un o'r darpariaethau yn y Ddeddf, pan ddechreuir, yn tynhau'r gyfraith drwy osod cyfrifoldebau ar yrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat i gynnig cymorth i bobl mewn cadeiriau olwyn. Gall gyrwyr sy'n dioddef o gyflwr sy'n ei gwneud hi'n anodd iddynt gynnig cymorth ymgeisio i gael eu heithrio o'r dyletswyddau hynny.
Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi canllawiau ar ei gwefan ac fe'u dygwyd i sylw'r holl awdurdodau trwyddedu/tacsis a'r prif sefydliadau tacsis/CHP.
Er 1 Ionawr 2000 bu'n rhaid i bob tacsi trwyddedig yn Llundain ddarparu mynediad i gadeiriau olwyn o dan reoleiddiad ar wahân ac mae nifer o awdurdodau lleol mewn rhannau eraill o'r DU - sy'n cwmpasu ardaloedd dinesig yn bennaf - ers hynny wedi gwneud rheoliadau tebyg ar gyfer tacsis trwyddedig yn eu hardaloedd. Y tu allan i'r ardaloedd hyn, mae nifer o dacsis a chabiau-mini yn geir salŵn mawr, nad oes ganddynt fynediad addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
Ond, os gall defnyddiwr drosglwyddo ei hun o'i g/chadair olwyn, bydd y mwyafrif yn cludo cadeiriau olwyn sy'n plygu yn y gist. Mae gan rai gweithredwyr tacsis a CHP 'symudwr pobl' neu 'gerbydau amlbwrpas' (CAB) sydd â mynediad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Dylai teithwyr gysylltu â'u swyddfa trwyddedu tacsis o fewn eu hawdurdod lleol i ganfod a oes tacsis a mynediad i gadeiriau olwyn ar gael mewn ardal benodol.
Gellir archebu cerbydau hacnai (tacsis trwyddedig) a Cherbydau Hurio Preifat (CHP neu gabiau-mini) o flaen llaw ar gyfer teithiau drws-i-ddrws, ond dim ond tacsis trwyddedig all aros mewn arhosfan dacsis a chodi teithwyr wedi iddynt gael eu stopio. Mae dros hanner y fflyd o gerbydau hacnai yng Nghaerdydd yn hygyrch. Mae rhai CHP yn hygyrch, ond mae hynny yn ôl doethineb y gweithredwyr a hefyd yn ddibynnol ar fodel a maint y cerbyd.
Mae gofyn i dacsis a CHP (cabiau-mini) i gludo Cŵn Tywys a Chlywed, yn ogystal â chŵn wedi'u hyfforddi gan 'Dogs for the Disabled', 'Support Dogs' a 'Canine Partners'. Rhaid caniatáu i gŵn aros gyda'u perchnogion a'u cludo heb unrhyw gost ychwanegol. Mae gyrwyr wedi derbyn gwybodaeth ar sut i adnabod y cŵn hyn, felly mae'n bwysig eu bod yn gwisgo eu harneisiau neu siacedi sy'n dangos enw'r elusen hyfforddi.
Yr unig yrwyr sydd wedi'u heithrio yw'r rhai hynny sydd â chyflwr meddygol wedi'i brofi, megis y fogfa (Asthma), y gellid ei wneud yn waeth drwy gysylltiad â chŵn. Os felly, bydd yr awdurdod trwyddedu yn cyflwyno tystysgrif 'Nodyn Eithriad' i'r gyrrwr, ac fe ddylid ei arddangos ar ffenestr flaen neu banel blaen y cerbyd. Bydd gan y nodyn hwn ED (Exemption Dogs) mawr wedi'i argraffu arno ac yn dangos rhif trwydded y gyrrwr. Ceir manylion manwl ar wefan DPTAC. Mae'r Pwyllgor hefyd yn cynhyrchu canllaw teithio ar gyfer pobl anabl, 'O Ddrws i Ddrws (Door to Door).