TEXT SIZE: A A A
Cyferbyniad:
Listen: More about BrowseAloud

Ffoniwch ni: 0800 464 0000

Mewn Car

Mewn Car

Bathodyn Glas

Os ydych wedi derbyn Bathodyn Glas gellir ei ddefnyddio yng Nghymru. Mae'r bathodyn wedi'i gynllunio i'w arddangos mewn unrhyw gerbyd modur a gaiff ei ddefnyddio gan ddeilydd bathodyn glas, sy'n rhoi hawl iddynt i'r consesiynau perthnasol yma.

Mae arddangos y bathodyn glas yn rhoi consesiynau penodol ar gyfer parcio ar y stryd lle gellir parcio cerbyd ac am ba hyd. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio lle, pryd ac am ba hyd y cewch barcio wrth arddangos bathodyn glas.

Gall deiliaid y Bathodyn Glas hefyd fod â hawl i gonsesiynau wrth ddefnyddio tollbontydd, os ydynt yn cwrdd â rhai amodau penodol a osodwyd gan y perchnogion neu weithredwyr. Mae deiliaid Bathodynnau Glas yn gymwys i deithio'n rhad ac am ddim dros y ddwy Bont Hafren. Rhaid dangos y bathodynnau glas wrth fwth y doll i fod yn gymwys am yr eithriad.

Am wybodaeth bellach sy’n benodol i Gymru, ymwelwch â’r ddolen hon.