Teithio Cynorthwyedig: 0333 3211 202
Mae’r llinellau ar agor rhwng 08:00 ac 20:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 11:00 ac 20:00 ar ddydd Sul
Teithio Cynorthwyedig: 0800 197 1329
Ffôn testun: 18001 0800 197 1329
Teithio Cynorthwyedig: 08457 443 366
ar gyfer defnyddwyr y ffôn testun: 08457 443 367
Angen cymorth arbennig wrth deithio? Yna ffoniwch gwasanaeth archebu sedd 'Virgin Trains Journey Care' o leiaf 24 awr o flaen llaw. Mae galwadau'n costio 2cyf (dydd) a 0.5cyf (gyda'r hwyr) o brif linell BT. Gall costau gweithredwyr eraill amrywio.
Gwybodaeth am Brisiau Gostyngol Llywodraeth Cynulliad Cymru
Gwybodaeth am Brisiau Tocynnau Trên Gostyngol
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau â'i ymrwymiad i Raglen Gwelliannau Gorsafoedd Cymru, sy'n ceisio darparu hygyrchedd rhagorol i orsafoedd, er enghraifft, yng Ngorsafoedd Parkway Port Talbot, Pontypridd a Chastell-nedd.
Yn dilyn dau arbrawf llwyddiannus yng Ngorsafoedd Aberdyfi a'r Cymoedd, ein nod yw cyflwyno'r rhaglen Mynediad Haws (Crymachau) mewn gorsafoedd gwledig dethol yng Nghymru sydd â phroblem gyda'r uchder camu rhwng y platfform a'r trên sy'n atal pobl mewn cadeiriau olwyn rhag esgyn ar drên, a bydd y rhaglen wedi'i chwblhau erbyn diwedd 2011.
Ceir gwybodaeth bellach ar gludiant cyhoeddus hygyrch yng Nghymru drwy ymweld â Traveline Cymru.